2 Cronicl 28:17-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

17. Yr oedd yr Edomiaid wedi ymosod ar Jwda unwaith eto a chymryd caethgludion;

18. yr oedd y Philistiaid hefyd wedi anrheithio dinasoedd y Seffela a de Jwda a chymryd Beth-semes, Ajalon a Gederoth, a hefyd Socho, Timna a Gimso a'u pentrefi, ac wedi mynd i fyw ynddynt.

19. Yr oedd yr ARGLWYDD wedi darostwng Jwda o achos Ahas brenin Israel am iddo golli pob rheolaeth yn Jwda a throseddu'n enbyd yn erbyn yr ARGLWYDD.

20. Daeth Tiglath-pileser brenin Asyria ato, ond yn lle ei gynorthwyo fe wasgodd arno.

2 Cronicl 28