2 Cronicl 25:20-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

20. Ond ni fynnai Amaseia wrando, oherwydd gwaith Duw oedd hyn er mwyn eu rhoi yn llaw Joas am iddynt droi at dduwiau Edom.

21. Felly daeth Joas brenin Israel ac Amaseia brenin Jwda wyneb yn wyneb ger Beth-semes yn Jwda.

22. Gorchfygwyd Jwda gan Israel, a ffodd pawb adref.

23. Wedi i Joas brenin Israel ddal brenin Jwda, sef Amaseia fab Joas, fab Jehoahas, yn Beth-semes, daeth ag ef i Jerwsalem, a thorrodd i lawr fur Jerwsalem o Borth Effraim hyd Borth y Gongl, sef pedwar can cufydd.

2 Cronicl 25