2 Cronicl 19:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Dychwelodd Jehosaffat brenin Jwda yn ddiogel i'w dŷ yn Jerwsalem.

2. A daeth Jehu fab Hanani y gweledydd allan i'w gyfarfod a dweud wrtho, “A wyt ti'n ymhyfrydu mewn cynorthwyo'r annuwiol a'r rhai sy'n casáu'r ARGLWYDD? Daw llid arnat am hyn.

3. Eto, y mae daioni ynot, oherwydd fe dynnaist ymaith ddelwau Asera o'r wlad, a rhoddaist dy fryd ar geisio Duw.”

4. Yr oedd Jehosaffat yn byw yn Jerwsalem, ond yn dal i fynd allan ymysg y bobl o Beerseba hyd fynydd-dir Effraim, a dod â hwy'n ôl at ARGLWYDD Dduw eu tadau.

2 Cronicl 19