2 Cronicl 18:20-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

20. ond dyma un ysbryd yn sefyll allan o flaen yr ARGLWYDD ac yn dweud, ‘Fe'i hudaf fi ef’. Ac meddai'r ARGLWYDD, ‘Sut?’

21. Dywedodd yntau, ‘Af allan a bod yn ysbryd celwyddog yng ngenau ei broffwydi i gyd.’ Yna dywedodd wrtho, ‘Fe lwyddi di i'w hudo; dos a gwna hyn.’

22. Yn awr, rhoddodd yr ARGLWYDD ysbryd celwyddog yng ngenau dy broffwydi hyn; y mae'r ARGLWYDD wedi llunio drwg ar dy gyfer.”

23. Nesaodd Sedeceia fab Cenaana a rhoi cernod i Michea, a dweud, “Sut yr aeth ysbryd yr ARGLWYDD oddi wrthyf fi i lefaru wrthyt ti?”

2 Cronicl 18