2 Cronicl 16:11-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

11. Y mae hanes Asa, o'r dechrau i'r diwedd, wedi ei ysgrifennu yn llyfr brenhinoedd Jwda ac Israel.

12. Yn y bedwaredd flwyddyn ar bymtheg ar hugain o'i deyrnasiad dechreuodd Asa ddioddef yn enbyd o glefyd yn ei draed; ond yn ei waeledd fe geisiodd y meddygon yn hytrach na'r ARGLWYDD.

13. Bu Asa farw; yn yr unfed flwyddyn a deugain o'i deyrnasiad y bu farw.

2 Cronicl 16