2 Cronicl 13:17-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

17. Lladdodd Abeia a'i filwyr lawer iawn ohonynt; syrthiodd yn gelain bum can mil o wŷr dethol Israel.

18. Darostyngwyd yr Israeliaid y pryd hwnnw, a chafodd byddin Jwda fuddugoliaeth am iddynt ymddiried yn ARGLWYDD Dduw eu hynafiaid.

19. Ymlidiodd Abeia ar ôl Jeroboam a chymryd oddi arno ddinasoedd Bethel, Jesana ac Effraim a'u pentrefi.

20. Ni lwyddodd Jeroboam i adennill ei nerth yn ystod teyrnasiad Abeia; trawyd ef gan yr ARGLWYDD, a bu farw.

2 Cronicl 13