2 Cronicl 10:15-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

15. Felly ni wrandawodd y brenin ar y bobl, oherwydd fel hyn y tynghedwyd gan Dduw, er mwyn i'r ARGLWYDD gyflawni'r gair a lefarwyd drwy Aheia o Seilo wrth Jeroboam fab Nebat.

16. A phan welodd holl Israel nad oedd y brenin am wrando arnynt, daeth ateb oddi wrth y bobl at y brenin:“Pa ran sydd i ni yn Nafydd?Nid oes gyfran inni ym mab Jesse.Adref i'th bebyll, Israel!Edrych at dy dŷ dy hun, Ddafydd!”

17. Yna aeth Israel adref. Ond yr oedd rhai Israeliaid yn byw yn nhrefi Jwda, a Rehoboam yn frenin arnynt.

18. Pan anfonodd y brenin atynt Adoram, goruchwyliwr y llafur gorfod, llabyddiodd yr Israeliaid ef a'i ladd; ond llwyddodd y Brenin Rehoboam i gyrraedd ei gerbyd a ffoi i Jerwsalem.

19. Ac y mae Israel mewn gwrthryfel yn erbyn llinach Dafydd hyd heddiw.

2 Cronicl 10