2 Corinthiaid 2:9-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

9. Oherwydd f'amcan wrth ysgrifennu oedd eich gosod dan brawf, i weld a ydych yn ufudd ym mhob peth.

10. Y sawl yr ydych chwi'n maddau rhywbeth iddo, yr wyf fi'n maddau iddo hefyd. A'r hyn yr wyf fi wedi ei faddau, os oedd gennyf rywbeth i'w faddau, fe'i maddeuais er eich mwyn chwi yng ngolwg Crist,

11. rhag i Satan gael mantais arnom, oherwydd fe wyddom yn dda am ei ddichellion ef.

2 Corinthiaid 2