2 Brenhinoedd 3:4-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

4. Perchen defaid oedd Mesa brenin Moab, a byddai'n talu i frenin Israel gan mil o ŵyn a gwlân can mil o hyrddod.

5. Ond wedi marw Ahab, gwrthryfelodd brenin Moab yn erbyn brenin Israel.

6. Ac ar unwaith aeth y Brenin Jehoram o Samaria i restru holl Israel.

7. Anfonodd hefyd at Jehosaffat brenin Jwda a dweud, “Y mae brenin Moab wedi gwrthryfela yn f'erbyn; a ddoi di gyda mi i ymladd yn erbyn Moab?” Dywedodd yntau, “Dof gam a cham gyda thi, dyn am ddyn, a march am farch.”

2 Brenhinoedd 3