2 Brenhinoedd 25:20-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

20. Aeth Nebusaradan capten y gwarchodlu â'r rhai hyn at frenin Babilon i Ribla.

21. Fflangellodd brenin Babilon hwy i farwolaeth yn Ribla, yng ngwlad Hamath. Felly y caethgludwyd Jwda allan o'i gwlad ei hun.

22. Penododd Nebuchadnesar brenin Babilon Gedaleia fab Ahicam, fab Saffan dros y bobl a adawyd ganddo yn nhir Jwda.

2 Brenhinoedd 25