2 Brenhinoedd 24:17-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

17. Gwnaeth brenin Babilon Mataneia ewythr Jehoiachin yn frenin yn ei le, a newid ei enw i Sedeceia.

18. Un ar hugain oed oedd Sedeceia pan ddaeth yn frenin, a theyrnasodd am un mlynedd ar ddeg yn Jerwsalem. Hamutal merch Jeremeia o Libna oedd enw ei fam.

19. A gwnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, yn union fel y gwnaeth Jehoiacim.

2 Brenhinoedd 24