2 Brenhinoedd 24:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Yn ei ddyddiau ef daeth Nebuchadnesar brenin Babilon yn ei erbyn, a bu Jehoiacim yn ddarostyngedig iddo am dair blynedd cyn gwrthryfela.

2. Anfonodd yr ARGLWYDD finteioedd o Galdeaid ac o Syriaid a Moabiaid ac Ammoniaid i ymosod ar Jwda a'i difa, yn ôl yr hyn yr oedd yr ARGLWYDD wedi ei ddweud trwy ei weision y proffwydi.

3. Yn sicr, trwy orchymyn yr ARGLWYDD y digwyddodd hyn i Jwda, i'w symud o'i olwg am yr holl bechodau a wnaeth Manasse,

2 Brenhinoedd 24