2 Brenhinoedd 19:35-37 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

35. A'r noson honno aeth angel yr ARGLWYDD allan a tharo yng ngwersyll Asyria gant a phedwar ugain a phump o filoedd; pan ddaeth y bore cafwyd hwy i gyd yn gelanedd meirwon.

36. Yna aeth Senacherib brenin Asyria i ffwrdd a dychwelyd i Ninefe ac aros yno.

37. Pan oedd yn addoli yn nheml ei dduw Nisroch, daeth ei feibion Adrammelech a Sareser a'i ladd รข'r cleddyf, ac yna dianc i wlad Ararat. Daeth ei fab Esarhadon i'r orsedd yn ei le.

2 Brenhinoedd 19