2 Brenhinoedd 17:26 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)
Yna dywedwyd wrth frenin Asyria, “Nid yw'r cenhedloedd a anfonaist i fyw yn nhrefi Samaria yn deall defod duw'r wlad, ac y mae wedi anfon i'w mysg lewod, ac y maent yn eu lladd am nad oes neb yn gwybod defod duw'r wlad.”