2 Brenhinoedd 13:14-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

14. Pan oedd Eliseus yn glaf o'i glefyd olaf, daeth Joas brenin Israel i ymweld ag ef, ac wylo yn ei ŵydd a dweud, “Fy nhad, fy nhad, cerbydau a marchogion Israel.”

15. Dywedodd Eliseus wrtho, “Cymer fwa a saethau,” a gwnaeth yntau hynny.

16. Yna meddai wrth frenin Israel, “Cydia yn y bwa”; gwnaeth yntau, a gosododd Eliseus ei ddwylo ar ddwylo'r brenin.

2 Brenhinoedd 13