2 Brenhinoedd 10:34-36 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

34. Am weddill hanes Jehu, a'i holl wrhydri a'r cwbl a wnaeth, onid yw wedi ei ysgrifennu yn llyfr hanesion brenhinoedd Israel?

35. Bu farw Jehu, a chladdwyd ef yn Samaria, a daeth ei fab Jehoahas yn frenin yn ei le.

36. Wyth mlynedd ar hugain y bu Jehu yn frenin ar Israel yn Samaria.

2 Brenhinoedd 10