1 Thesaloniaid 5:6-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

6. Am hynny, rhaid inni beidio â chysgu, fel y rhelyw, ond bod yn effro a sobr.

7. Y rhai sydd yn cysgu, yn y nos y maent yn cysgu, a'r rhai sydd yn meddwi, yn y nos y maent yn meddwi.

8. Ond gan ein bod ni'n perthyn i'r dydd, gadewch inni fod yn sobr, gan wisgo amdanom ffydd a chariad yn ddwyfronneg, a gobaith iachawdwriaeth yn helm.

9. Oherwydd nid i ddigofaint y penododd Duw ni, ond i feddu iachawdwriaeth drwy ein Harglwydd Iesu Grist,

10. yr hwn a fu farw drosom, er mwyn inni gael byw gydag ef, p'run bynnag ai yn effro ai yn cysgu y byddwn.

11. Am hynny, calonogwch eich gilydd, ac adeiladwch bob un ei gilydd—fel, yn wir, yr ydych yn gwneud.

1 Thesaloniaid 5