1 Thesaloniaid 5:13-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

13. a synio'n uchel iawn amdanynt mewn cariad, ar gyfrif eu gwaith. Byddwch yn heddychlon yn eich plith eich hunain.

14. Ac yr ydym yn eich annog, gyfeillion, ceryddwch y segurwyr, cysurwch y gwangalon, cynorthwywch y rhai eiddil, byddwch yn amyneddgar wrth bawb.

15. Gwyliwch na fydd neb yn talu drwg am ddrwg i neb, ond ceisiwch bob amser les eich gilydd a lles pawb.

16. Llawenhewch bob amser.

17. Gweddïwch yn ddi-baid.

18. Ym mhob dim rhowch ddiolch, oherwydd hyn yw ewyllys Duw yng Nghrist Iesu i chwi.

19. Peidiwch â diffodd yr Ysbryd;

20. peidiwch â dirmygu proffwydoliaethau.

21. Ond rhowch brawf ar bob peth, a glynwch wrth yr hyn sydd dda.

1 Thesaloniaid 5