1 Samuel 9:6-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

6. Ac meddai'r gwas wrtho, “Edrych, y mae yma ŵr Duw yn y dref hon sy'n uchel ei glod, a phopeth a ddywed yn sicr o ddigwydd. Gad inni fynd ato, ac efallai y dywed wrthym pa ffordd y dylem fynd.”

7. Ond dywedodd Saul wrth ei was, “A bwrw'n bod ni'n mynd, beth a ddygwn ni i'r dyn? Y mae hyd yn oed y bara yn ein paciau wedi darfod; nid oes gennym unrhyw rodd i'w chynnig i ŵr Duw. Beth sydd gennym?”

8. Atebodd y gwas eto a dweud wrth Saul, “Wel, y mae'n digwydd bod gennyf fi chwarter sicl; fe'i rhoddaf i ŵr Duw am ddweud y ffordd wrthym.”

9. (Yn Israel gynt, fel hyn y dywedai rhywun wrth fynd i ymgynghori â Duw, “Dewch ac awn at y gweledydd.” Oherwydd gynt “gweledydd” oedd yr enw ar broffwyd.)

10. Dywedodd Saul wrth ei was, “Awgrym da. Tyrd, fe awn.” Ac aethant i'r dref lle'r oedd gŵr Duw.

11. Fel yr oeddent yn dringo'r allt at y dref, gwelsant ferched ar eu ffordd i dynnu dŵr, a dyna ofyn iddynt, “A yw'r gweledydd yma?”

12. “Ydyw,” meddent, “acw'n syth o'ch blaen; brysiwch, y mae newydd gyrraedd y dref, oherwydd y mae gan y bobl aberth heddiw yn yr uchelfa.

1 Samuel 9