1 Samuel 8:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Wedi i Samuel heneiddio, penododd ei feibion yn farnwyr ar yr Israeliaid.

2. Joel oedd ei fab hynaf, ac Abeia ei ail fab; ac yr oeddent yn barnu yn Beerseba.

3. Eto nid oedd y meibion yn cerdded yn llwybrau eu tad, ond yn ceisio elw, yn derbyn cildwrn ac yn gwyro barn.

4. Felly cyfarfu holl henuriaid Israel, a mynd at Samuel i Rama,

5. a dweud wrtho, “Yr wyt ti wedi mynd yn hen, ac nid yw dy feibion yn cerdded yn dy lwybrau di; rho inni'n awr frenin i'n barnu, yr un fath â'r holl genhedloedd.”

1 Samuel 8