1 Samuel 7:15-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

15. Bu Samuel yn barnu Israel ar hyd ei oes.

16. Bob blwyddyn âi ar gylchdaith i Fethel, Gilgal a Mispa, a barnu Israel yn y mannau hyn.

17. Yna dychwelai i Rama, oherwydd yno'r oedd ei gartref. Barnai Israel yno hefyd, a chododd yno allor i'r ARGLWYDD.

1 Samuel 7