1 Samuel 30:4-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

4. Torrodd Dafydd a'i ddynion allan i wylo'n uchel, nes eu bod yn rhy wan i wylo rhagor.

5. Yr oedd dwy wraig Dafydd wedi eu caethgludo, sef Ahinoam o Jesreel ac Abigail o Garmel, gwraig Nabal.

6. Aeth yn gyfyng iawn ar Ddafydd, oherwydd bod y bobl yn bygwth ei labyddio am fod ysbryd pob un o'r bobl yn chwerw o achos ei feibion a'i ferched ei hun; ond cafodd Dafydd nerth gan yr ARGLWYDD ei Dduw.

7. Dywedodd Dafydd wrth yr offeiriad Abiathar fab Ahimelech, “Tyrd â'r effod yma i mi.” Wedi i Abiathar ddod â'r effod at Ddafydd,

8. ymofynnodd Dafydd â'r ARGLWYDD, a gofyn, “Os af ar ôl y fintai hon, a ddaliaf hwy?” Atebodd ef, “Dos ar eu hôl; yr wyt yn sicr o'u dal a sicrhau gwaredigaeth.”

1 Samuel 30