1 Samuel 24:7-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

7. Ataliodd Dafydd ei wŷr â'r geiriau hyn rhag iddynt ymosod ar Saul.

8. Pan ymadawodd Saul â'r ogof a mynd i'w daith, aeth Dafydd allan o'r ogof a galw ar ei ôl a dweud, “F'arglwydd frenin!” A phan edrychodd Saul yn ôl, plygodd Dafydd â'i wyneb at y llawr ac ymgrymu.

9. Yna dywedodd Dafydd wrth Saul, “Pam y gwrandewaist ar eiriau'r dynion sy'n dweud fod Dafydd yn ceisio niwed i ti?

1 Samuel 24