1 Samuel 23:17-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

17. a dweud wrtho, “Paid ag ofni; ni ddaw fy nhad Saul o hyd iti; byddi di'n frenin ar Israel a minnau'n ail iti, ac y mae fy nhad Saul yn gwybod hynny'n iawn.”

18. Gwnaethant gyfamod ill dau gerbron yr ARGLWYDD; arhosodd Dafydd yn Hores, ac aeth Jonathan adref.

19. Aeth pobl Siff at Saul i Gibea a dweud, “Onid yw Dafydd yn ymguddio yn ein hardal, yn llochesau Hores ym mryniau Hachila i'r de o Jesimon?

20. Pryd bynnag yr wyt ti'n dymuno, O frenin, tyrd i lawr, a rhown ninnau ef yn llaw'r brenin.”

1 Samuel 23