2. Cymerodd Saul ef y dydd hwnnw, ac ni chaniataodd iddo fynd adref at ei dad.
3. Gwnaeth Jonathan gyfamod รข Dafydd am ei fod yn ei garu fel ef ei hun;
4. tynnodd y fantell oedd amdano a'i rhoi i Ddafydd; hefyd ei arfau, hyd yn oed ei gleddyf, ei fwa a'i wregys.
5. Llwyddodd Dafydd ym mhob gorchwyl a roddai Saul iddo, a gosododd Saul ef yn bennaeth ei filwyr, er boddhad i bawb, gan gynnwys swyddogion Saul.