1 Samuel 14:50-52 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

50. Ahinoam ferch Ahimaas oedd gwraig Saul, ac Abner fab Ner, ewythr Saul, oedd pennaeth ei lu.

51. Yr oedd Cis tad Saul a Ner tad Abner yn feibion i Abiel.

52. Bu rhyfel caled yn erbyn y Philistiaid holl ddyddiau Saul; ac os gwelai Saul ŵr cryf a dewr, fe'i cymerai ato.

1 Samuel 14