1 Samuel 12:21-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

21. Peidiwch â throi at wagedd eilunod na fedrant gynorthwyo na gwaredu am mai gwagedd ydynt.

22. Er mwyn ei enw mawr ni fydd yr ARGLWYDD yn gwrthod ei bobl; oherwydd y mae'r ARGLWYDD yn dymuno'ch gwneud yn bobl iddo.

23. A phell y bo oddi wrthyf finnau bechu yn erbyn yr ARGLWYDD trwy roi'r gorau i weddïo drosoch a'ch hyfforddi yn y ffordd dda ac uniawn.

1 Samuel 12