1 Samuel 12:11-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

11. Anfonodd yr ARGLWYDD Jerwbbaal, Bedan, Jefftha a Samuel, a gwaredodd chwi o law y gelynion o'ch cwmpas, a chawsoch fyw'n ddiogel.

12. Ond pan welsoch Nahas brenin yr Ammoniaid yn dod yn eich erbyn, dywedasoch wrthyf, ‘Na, rhaid cael brenin i deyrnasu arnom’, er bod yr ARGLWYDD eich Duw yn frenin arnoch.

13. Yn awr, dyma'r brenin yr ydych wedi ei ddewis a gofyn amdano; ydyw, y mae'r ARGLWYDD wedi rhoi brenin i chwi.

14. Os byddwch yn ofni'r ARGLWYDD, ac yn ei addoli ef ac yn ufuddhau iddo heb wrthryfela yn erbyn ei orchymyn, ac os byddwch chwi a'r brenin a osodir arnoch yn dilyn yr ARGLWYDD eich Duw, popeth yn dda.

15. Ond os na wrandewch ar yr ARGLWYDD, ond gwrthryfela yn erbyn ei orchymyn, yna bydd llaw yr ARGLWYDD yn eich erbyn chwi a'ch brenin i'ch difa.

16. Yn awr, safwch yma a gwelwch y peth mawr hwn y mae'r ARGLWYDD yn ei wneud o flaen eich llygaid.

1 Samuel 12