1 Pedr 3:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Yn yr un modd, chwi wragedd priod, byddwch ddarostyngedig i'ch gwŷr; ac yna, os oes rhai sy'n anufudd i'r gair, fe'u henillir hwy trwy ymarweddiad eu gwragedd, heb i chwi ddweud yr un gair,

2. wedi iddynt weld eich ymarweddiad pur a duwiolfrydig.

3. Boed ichwi'n addurn, nid pethau allanol fel plethu gwallt, ymdaclu â thlysau aur, ymharddu â gwisgoedd,

1 Pedr 3