21. Meibion Sela fab Jwda: Er tad Lecha, Laada tad Maresa (tylwythau'r rhai o Beth-asbea oedd yn gwneud lliain main);
22. Jocim, dynion Choseba, a Joas a Saraff, a fu'n arglwyddiaethu ar Moab cyn dychwelyd i Fethlehem. (Y mae'r hanesion hyn yn hen.)
23. Y rhain oedd y crochenyddion oedd yn byw yn Netaim a Gedera; yr oeddent yn byw yno yng ngwasanaeth y brenin.
24. Meibion Simeon: Nemuel, Jamin, Jarib, Sera, Saul;
25. Salum ei fab yntau, Mibsam ei fab yntau, Misma ei fab yntau.