1 Cronicl 2:17-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

17. Abigail oedd mam Amasa, a'i dad ef oedd Jether yr Ismaeliad.

18. Yr oedd Asuba, gwraig Caleb fab Hesron, yn fam i Jerioth, ac i Jeser, Sohab ac Adron.

19. Pan fu farw Asuba cymerodd Caleb Effrata yn wraig iddo; hi oedd mam Hur.

20. Hur oedd tad Uri, ac Uri oedd tad Besalel.

21. Wedi hynny aeth Hesron i mewn at ferch Machir tad Gilead, a'i phriodi ac yntau'n drigain oed; hi oedd mam Segub.

1 Cronicl 2