1 Corinthiaid 7:7-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

7. Carwn pe bai pawb fel yr wyf fi fy hunan; ond y mae gan bob un ei ddawn ei hun oddi wrth Dduw, y naill fel hyn a'r llall fel arall.

8. Yr wyf yn dweud wrth y rhai dibriod, a'r gwragedd gweddwon, mai peth da fyddai iddynt aros felly, fel finnau.

9. Ond os na allant ymatal, dylent briodi, oherwydd gwell priodi nag ymlosgi.

10. I'r rhai sydd wedi priodi yr wyf fi'n gorchymyn—na, nid fi, ond yr Arglwydd—nad yw'r wraig i ymadael â'i gŵr;

1 Corinthiaid 7