1 Corinthiaid 7:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Yn awr, ynglŷn â'r pethau yn eich llythyr. Peth da yw i ddyn beidio â chyffwrdd â gwraig.

2. Ond oherwydd yr anfoesoldeb rhywiol sy'n bod, bydded gan bob dyn ei wraig ei hun, a chan bob gwraig ei gŵr ei hun.

3. Dylai'r gŵr roi i'r wraig yr hyn sy'n ddyledus iddi, a'r un modd y wraig i'r gŵr.

4. Nid y wraig biau'r hawl ar ei chorff ei hun, ond y gŵr. A'r un modd, nid y gŵr biau'r hawl ar ei gorff ei hun, ond y wraig.

1 Corinthiaid 7