1 Corinthiaid 6:18-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

18. Ffowch oddi wrth buteindra; pob pechod arall a wna rhywun, beth bynnag ydyw, y tu allan i'r corff y mae, ond y mae'r sawl sydd yn puteinio yn pechu yn erbyn ei gorff ei hun.

19. Neu, oni wyddoch fod eich corff yn deml i'r Ysbryd Glân sydd ynoch, yr hwn sydd gennych oddi wrth Dduw, ac nad yr eiddoch eich hunain mohonoch?

20. Oherwydd prynwyd chwi am bris. Felly gogoneddwch Dduw yn eich corff.

1 Corinthiaid 6