1 Corinthiaid 4:18-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

18. Y mae rhai wedi ymchwyddo, fel pe na bawn i am ddod atoch.

19. Ond yr wyf am ddod atoch ar fyrder, os caniatâ'r Arglwydd, a chaf wybod, nid am siarad y rhai sydd wedi ymchwyddo, ond am eu gallu.

20. Oherwydd nid mewn siarad y mae teyrnas Dduw, ond mewn gallu.

21. Beth yw eich dewis? Ai â gwialen yr wyf i ddod atoch, ynteu â chariad, ac ysbryd addfwynder?

1 Corinthiaid 4