1 Corinthiaid 15:6-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

6. Yna, ymddangosodd i fwy na phum cant o'i ddilynwyr ar unwaith—ac y mae'r mwyafrif ohonynt yn fyw hyd heddiw, er bod rhai wedi huno.

7. Yna, ymddangosodd i Iago, yna i'r holl apostolion.

8. Yn ddiwethaf oll, fe ymddangosodd i minnau hefyd, fel i ryw erthyl o apostol.

9. Oherwydd y lleiaf o'r apostolion wyf fi, un nad wyf deilwng i'm galw yn apostol, gan imi erlid eglwys Dduw.

1 Corinthiaid 15