1 Corinthiaid 15:54-57 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

54. A phan fydd y llygradwy hwn wedi gwisgo anllygredigaeth, a'r marwol hwn wedi gwisgo anfarwoldeb, yna bydd y geiriau hyn sydd yn ysgrifenedig yn dod yn wir:“Llyncwyd angau mewn buddugoliaeth.

55. O angau, ble mae dy fuddugoliaeth?O angau, ble mae dy golyn?”

56. Colyn angau yw pechod, a grym pechod yw'r Gyfraith.

57. Ond i Dduw y bo'r diolch, yr hwn sy'n rhoi'r fuddugoliaeth i ni trwy ein Harglwydd Iesu Grist.

1 Corinthiaid 15