1 Corinthiaid 15:23-26 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

23. Ond pob un yn ei briod drefn: Crist y blaenffrwyth, ac yna, ar ei ddyfodiad ef, y rhai sy'n eiddo Crist.

24. Yna daw'r diwedd, pan fydd Crist yn traddodi'r deyrnas i Dduw'r Tad, ar ôl iddo ddileu pob tywysogaeth, a phob awdurdod a gallu.

25. Oherwydd y mae'n rhaid iddo ef ddal i deyrnasu nes iddo osod ei holl elynion dan ei draed.

26. Y gelyn olaf a ddilëir yw angau.

1 Corinthiaid 15