1 Corinthiaid 11:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Byddwch yn efelychwyr ohonof fi, fel yr wyf finnau o Grist.

2. Yr wyf yn eich canmol chwi am eich bod yn fy nghofio ym mhob peth, ac yn cadw'r traddodiadau fel y traddodais hwy ichwi.

3. Ond yr wyf am ichwi wybod mai pen pob gŵr yw Crist, ac mai pen y wraig yw'r gŵr, ac mai pen Crist yw Duw.

1 Corinthiaid 11