1 Corinthiaid 10:23-27 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

23. “Y mae popeth yn gyfreithlon,” meddwch; ond nid yw popeth er lles. “Y mae popeth yn gyfreithlon,” meddwch; ond nid yw popeth yn adeiladu.

24. Peidied neb â cheisio'i les ei hun, ond lles ei gymydog.

25. Bwytewch bopeth a werthir yn y farchnad gig, heb holi'n fanwl yn ei gylch ar dir cydwybod.

26. Oherwydd eiddo'r Arglwydd yw'r ddaear a'i llawnder.

27. Os cewch wahoddiad gan anghredadun, ac os oes awydd arnoch fynd, bwytewch bopeth a osodir ger eich bron, heb holi'n fanwl yn ei gylch ar dir cydwybod.

1 Corinthiaid 10