1 Corinthiaid 10:21-26 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

21. Ni allwch yfed cwpan yr Arglwydd a chwpan cythreuliaid; ni allwch gyfranogi o fwrdd yr Arglwydd ac o fwrdd cythreuliaid.

22. A ydym yn mynnu cyffroi eiddigedd yr Arglwydd? A ydym yn gryfach nag ef?

23. “Y mae popeth yn gyfreithlon,” meddwch; ond nid yw popeth er lles. “Y mae popeth yn gyfreithlon,” meddwch; ond nid yw popeth yn adeiladu.

24. Peidied neb â cheisio'i les ei hun, ond lles ei gymydog.

25. Bwytewch bopeth a werthir yn y farchnad gig, heb holi'n fanwl yn ei gylch ar dir cydwybod.

26. Oherwydd eiddo'r Arglwydd yw'r ddaear a'i llawnder.

1 Corinthiaid 10