1 Brenhinoedd 9:25-28 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

25. Byddai Solomon yn offrymu poethoffrymau a heddoffrymau dair gwaith yn y flwyddyn ar yr allor a gododd i'r ARGLWYDD, ac at hynny yn arogldarthu gerbron yr ARGLWYDD. Felly y gorffennodd y tŷ.

26. Creodd y Brenin Solomon lynges yn Esion-geber sydd gerllaw Elath ar lan y Môr Coch yng ngwlad Edom;

27. ac anfonodd Hiram longwyr profiadol o blith ei weision yn y llongau gyda gweision Solomon.

28. Aethant i Offir a dod â phedwar cant ac ugain o dalentau aur oddi yno i'r Brenin Solomon.

1 Brenhinoedd 9