1 Brenhinoedd 7:42-47 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

42. y pedwar can pomgranad yn ddwy res ar y ddau rwydwaith dros y ddau gnap coronog ar y colofnau; y deg troli;

43. y deg noe ar y trolïau;

44. y môr a'r deuddeg ych dano;

45. y crochanau, y rhawiau, a'r cawgiau. Ac yr oedd yr holl offer hyn a wnaeth Hiram i'r Brenin Solomon ar gyfer tŷ'r ARGLWYDD o bres gloyw.

46. Toddodd y brenin hwy yn y cleidir rhwng Succoth a Sarethan yng ngwastadedd yr Iorddonen.

47. Peidiodd Solomon â phwyso'r holl lestri gan mor niferus oeddent, ac na ellid pwyso'r pres.

1 Brenhinoedd 7