1 Brenhinoedd 7:4-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

4. Ac yr oedd tair rhes o ffenestri yn wynebu ei gilydd fesul tair.

5. Yr oedd fframiau sgwâr i'r holl ddrysau, ac i'r ffenestri oedd yn wynebu ei gilydd fesul tair.

6. Gwnaeth Neuadd y Colofnau hefyd, yn hanner can cufydd o hyd a deg cufydd ar hugain o led, a chyntedd o'i blaen gyda cholofnau, a chornis uwchben.

7. Gwnaeth Neuadd yr Orsedd, lle'r oedd yn gweinyddu barn, sef y Neuadd Barn, wedi ei phanelu â chedrwydd o'r llawr i'r distiau.

1 Brenhinoedd 7