1 Brenhinoedd 7:27-30 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

27. Gwnaeth hefyd ddeg o drolïau pres, yn bedwar cufydd o hyd a phedwar cufydd o led a thri chufydd o uchder.

28. Yng ngwneuthuriad y trolïau yr oedd panelau rhwng fframiau, ac ar y panelau hyn yr oedd llewod ac ychen a cherwbiaid.

29. Ac yr oedd plethennau o riswaith ar y fframiau, uwchben ac o dan y llewod a'r ychen.

30. Yr oedd gan bob troli bedair olwyn bres ac echelau pres, ac ysgwyddau dan eu pedair congl ar gyfer y noe, a'r ysgwyddau yn waith tawdd, a phlethennau wrth bob un.

1 Brenhinoedd 7