1 Brenhinoedd 7:11-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

11. ac uwchben, meini trymion wedi eu torri i fesur, a chedrwydd.

12. Yr oedd gan y cwrt mawr dri chwrs o gerrig nadd a chwrs o drawstiau cedrwydd, a'r un modd cwrt mewnol tŷ'r ARGLWYDD hyd borth y tŷ.

13. Anfonodd y Brenin Solomon i Tyrus i gyrchu Hiram,

14. mab i wraig weddw o lwyth Nafftali, a'i dad yn hanu o Tyrus. Gof pres cywrain a deallus oedd ef, yn gwybod sut i wneud pob math o waith pres; a daeth at y Brenin Solomon a gwneud ei holl waith.

1 Brenhinoedd 7