1 Brenhinoedd 22:42-47 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

42. Pymtheg ar hugain oedd ei oed pan ddaeth i'r orsedd, a theyrnasodd am bum mlynedd ar hugain yn Jerwsalem. Asuba merch Silhi oedd enw ei fam.

43. Dilynodd lwybr ei dad Asa yn hollol ddiwyro, a gwneud yr hyn oedd yn uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD. Er hynny, ni symudwyd yr uchelfeydd, ac yr oedd y bobl yn parhau i aberthu ac arogldarthu ynddynt.

44. Gwnaeth Jehosaffat heddwch รข brenin Israel.

45. Ac onid yw gweddill hanes Jehosaffat, ei hynt a'i wrhydri a'i ryfela, wedi ei ysgrifennu yn llyfr hanesion brenhinoedd Jwda?

46. Hefyd fe ddileodd o'r tir yr olaf o buteinwyr y cysegr a adawyd o ddyddiau ei dad Asa.

47. Nid oedd brenin yn Edom. Fe wnaeth rhaglaw'r brenin Jehosaffat

1 Brenhinoedd 22