1 Brenhinoedd 22:20-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

20. A dywedodd yr ARGLWYDD, ‘Pwy a fedr hudo Ahab i frwydro a chwympo yn Ramoth-gilead?’ Ac yr oedd un yn dweud fel hyn a'r llall fel arall;

21. ond dyma un ysbryd yn sefyll allan o flaen yr ARGLWYDD ac yn dweud, ‘Fe'i hudaf fi ef.’ Ac meddai'r ARGLWYDD, ‘Sut?’

22. Dywedodd yntau, ‘Af allan a bod yn ysbryd celwyddog yng ngenau ei broffwydi i gyd.’ Yna dywedodd wrtho, ‘Fe lwyddi di i'w hudo; dos a gwna hyn.’

23. Yn awr, y mae'r ARGLWYDD wedi rhoi ysbryd celwyddog yng ngenau dy holl broffwydi hyn; y mae'r ARGLWYDD wedi llunio drwg ar dy gyfer.”

1 Brenhinoedd 22