1 Brenhinoedd 2:43-46 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

43. Pam na chedwaist lw yr ARGLWYDD a'r gorchymyn a roddais i ti?”

44. Yna dywedodd y brenin wrth Simei, “Fe wyddost yn dy galon yr holl ddrygioni a wnaethost i'm tad Dafydd.

45. Fe ddial yr ARGLWYDD dy ddrygioni arnat, ond bendithir y Brenin Solomon, a sicrheir gorsedd Dafydd gerbron yr ARGLWYDD yn dragywydd.”

46. Yna rhoes y brenin orchymyn i Benaia fab Jehoiada; aeth yntau allan ac ymosod ar Simei, a bu ef farw. A sicrhawyd y frenhiniaeth yn llaw Solomon.

1 Brenhinoedd 2