1 Brenhinoedd 16:21-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

21. Yr adeg honno rhannwyd cenedl Israel yn ddwy, gyda hanner y genedl yn dilyn Tibni fab Ginath i'w godi'n frenin, a'r hanner arall yn dilyn Omri.

22. Trechodd y bobl oedd yn dilyn Omri ddilynwyr Tibni fab Ginath, a phan fu Tibni farw, Omri oedd yn frenin.

23. Yn yr unfed flwyddyn ar ddeg ar hugain i Asa brenin Jwda daeth Omri yn frenin ar Israel, a theyrnasu am ddeuddeng mlynedd.

24. Wedi teyrnasu am chwe blynedd yn Tirsa, prynodd Fynydd Samaria gan Semer am ddwy dalent o arian, ac adeiladu ar y mynydd ddinas, a alwodd yn Samaria ar ôl Semer perchennog y mynydd.

1 Brenhinoedd 16